violin

<Gwyl ffidil yr wyddfa, Snowdon fiddle festival, 14th June Nant Periis>

 
Adra
Rhaglen
Cysylltwch â ni
Bwcio
Doleni
English

 

Site design and
hosting by
Pro Design

To see the site in English Click Here

Croeso i bumed flwyddyn Gwyl Ffidil yr Wyddfa. Tyfodd yr wyl o’r clwb ffidil lleol, Clwb Ffidil yr Wyddfa; y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth o chwarae ffidil traddodiadol yn yr ardal, rhoi llwyfan i’r cyfoeth o gerddoriaeth ffidil Gymreig, a rhoi siawns i ni glywed a dysgu gan brif ffidlwyr traddodiadol gwledydd eraill.

Pentref bach tlws Nant Peris ar odre’r Wyddfa ydy cartre’r wyl, sydd wedi dod yn adnabyddus am ei naws cartrefol, cynnes. Mae’r dathlu yn cychwyn nos Wener gyda sesiwn agored yn ystafell gefn glyd y Vaynol Arms. Yn ystod y dydd Sadwrn mae gweithdai ffidil ac offerynnau eraill gan gynnwys siawns i drio’r crwth (hen offeryn Cymreig), yn ogystal â chocsio a gweithgareddau i blant megis chwedleua, dringo a sioe pypedau. Yn dilyn yr hwyl gawsom ni llynedd, bydd cyngerdd meic-agored yn y dafarn eto amser cinio, i’w dilyn gan sesiwn agored drwy’r prynhawn; croeso i bawb ymuno. Lleolir y cyngerdd gyda’r nos yng Nghapel Rehoboth, bron yn gyferbyn â'r dafarn - yn gyfleus iawn ar gyfer y sesiwn wedyn!

Ymhlith yr artistiaid sydd wedi chwarae yma clywyd John Dipper, Maria Jonsson ac Ian Carr, KilBride, Siân Phillips, Christine a Jo Cooper, y deuawd Estonaidd/Cymreig SILD a’r New Rope String Band, yn ogystal â llawer o ffidlwyr lleol.

Eleni cawn gerddoriaeth i godi calon gan Roots and Galoots, band o Sir Benfro sydd yn chwarae cerddoriaeth Bluegrass fywiog a chaneuon mewn harmoni. Cawn gyfle prin i glywed set unawd gan Stephen Rees, sydd un o ffidlwyr mwyaf adnabyddus Cymru ac yn aelod o Crasdant ac Ar Log. Hefyd, ac yn draddodiadol bellach, bydd set byr gan y trefnwyr, Cass Meurig, Idris Morris Jones a Nial Cain a chyfraniad gan aelodau Clwb Ffidil yr Wyddfa. Peidiwch â’i cholli!