Croeso
Mehefin 16 2012 Nant Peris
gyda
yr anhygoel Nancy Kerr a James Fagan
Robert Evans o'r deuawd Bragod
Y Tri Miwsciadur yn marchogaeth eto!
a'r enwog Clwb Ffidil yr Wyddfa

2012 fydd nawfed flwyddyn Gŵyl Ffidil yr Wyddfa. Tyfodd yr ŵyl o’r clwb ffidil lleol, Clwb Ffidil yr Wyddfa; y bwriad ydy codi ymwybyddiaeth o chwarae ffidil traddodiadol yn yr ardal, rhoi llwyfan i’r cyfoeth o gerddoriaeth ffidil Gymreig, a rhoi siawns i ni glywed a dysgu gan brif ffidlwyr traddodiadol gwledydd eraill. Mae'r Ŵyl wedi dod yn adnabyddus am gerddoriaeth o'r radd flaenaf ac hefyd am ei naws cartrefol, cynnes ym mhrydferthwch pentref Nant Peris ar odre’r Wyddfa.
Eleni rydym yn cyflwyno'r anhygoel Nancy Kerr a James Fagan. Deuawd adnabyddus iawn ar y sîn werin rhyngwladol ydy Kerr a Fagan, sydd yn cyd-berfformio ers 15 mlynedd. Yn ystod yr amser yna maen nhw wedi ennill tair Gwobr Gwerin y BBC gan gynnwys y Deuawd Gorau ym 2011. Daeth Nancy Kerr i'r amlwg fel ffidlwraig a chantores gyda'i deuawd ag Eliza Carthy cyn iddi gwrdd â James Fagan ym 1995. Daw James Fagan o Awstralia'n wreiddiol ac mae'n chwaraewr penigamp ar sawl offeryn gan gynnwys y gitâr, ac yn ganwr o fri. Gyda phump albwm erbyn hyn, maen nhw'n cael croeso cynnes gan gynulleidfaoedd ym mhob man gyda'u perfformiadau llawen, pwerus.
Rydym hefyd yn falch o groesawu Robert Evans o Gaerdydd. Clywir Robert Evans fwyaf aml fel rhan o'r deuawd Bragod ond fel ffidlwr, mae ei gerddoriaeth wedi bod yn ddylanwad mawr ar genhedlaeth newydd o ffidlwyr yng Nghymru. Mae hefyd yn un o brif chwaraewyr y crwth, math o lyra a chwaraewyd yng Nghymru o'r canol oesodd tan y ddeunawfed ganrif.
Cewch ddisgwyl alawon swynol o'r ffidlwyr lleol Clwb Ffidil yr Wyddfa, ac fel arfer, set byr gan y trefnwyr Cass Meurig, Nial Cain ac Idris Morris Jones, yn marchogaeth eto fel y Tri Mwsciadur. Hwyrach byddwn ni hyd yn oed yn chwarae'r ffidil os gofynnwch yn glên!
Mae’r dathlu yn cychwyn nos Wener gyda sesiwn agored yn ystafell gefn glyd y Vaynol Arms. Yn ystod y dydd Sadwrn bydd gweithdai ffidil ar gyfer pob safon.
Un o uchafbwyntiau'r Wyl ydy'r cyngerdd meic-agored yn nhafarn y Vaynol Arms amser cinio, lle clywir perfformwyr o bob oedran a safon, ac bydd sesiwn werin drwy’r prynhawn gyda chroeso i bawb ymuno. Yn dilyn llwyddiant llynedd bydd twmpath teuluol yn y prynhawn yng nghwmni Clwb Ffidil yr Wyddfa. Lleolir y cyngerdd gyda’r nos yn eglwys hynafol Sant Peris, bron yn gyferbyn â'r dafarn - yn gyfleus iawn ar gyfer y sesiwn wedyn!
Ymysg artistiad 2011 roedd Paul Anderson o ogledd-ddwyrain yr Alban, Imogen Gunner a'r Imoband, Over the Moon, yn ogystal a ffidlwyr lleol Clwb Ffidil yr Wyddfa a gwesteion arbennig Pigyn Clust, gyflwynodd set bach er cof am eu cantores Ffion Haf.Yn 2010 cawsom gerddoriaeth arallfydol y ffidil Hardanger gyda Ånon Egeland o Rauland, Norwy yn ogystal â cherddoriaeth o'n mynyddoedd ni gyda Cass Meurig a Nial Cain, a'r ffidlwyr gwych Patrick Rimes ac Angharad Jenkins o'r grŵp Calan. Ymhlith yr artistiaid sydd wedi chwarae yma o'r blaen clywyd Ceri Rhys Matthews a Christine Cooper, Dan Morris a Gwilym Hardy, Roots'n'Galoots, Stephen Rees, John Dipper, Maria Jonsson ac Ian Carr, KilBride, Siân Phillips, Christine a Jo Cooper, y deuawd Estonaidd/Cymreig SILD a’r New Rope String Band, yn ogystal â llawer o ffidlwyr lleol.
Dewch a mwynhewch!
Gwyliwch uchafbwyntiau 2010 ar youtubel! http://www.youtube.com/watch?v=t8gg5gcmnOY









